Heddiw oedd y diwrnod mwyaf cyffrous hyd yn hyn, pryd aethon ni i weld Puy Du Fou. Ar ôl cyrraedd yr ysgol a cherdded draw i’r bws, gyrron ni fyna a darganfod yn union beth oedd y ‘Parc Thema’ yma. Mi oedd yn safle anferthol lle fe wnaethon nhw ail-wneud digwyddiadau hanesyddol yn Ffrainc. Aethon ni i weld y sioe cyntaf: Le Bal des Oiseaux Fantômes. Mi oedd yn anhygoel i weld sut mi oedd yr adar wedi cael eu hyfforddi mor dda ac yn gallu ymateb i bethau mor cymhleth i anifeiliaid. Yna, fe aethom i wylio Les Vikings: mi oedd yr ‘effeithiau arbennig’ mor anghredadwy, gan gynnwys tân ffig, gwres, dŵr ac anifeiliaid. Yn anffodus, mi oedd yn glawio’n drwm, felly mi oedd angen gwisgo Ponchos Puy Du Fou oddi wrth yr athrawon, ond ar yr ochr da mi oedd yn rhoi effaith gwych i’r sioe. Yn drydydd, mi oedd Mousquetaire de Richelieu, â oedd yn cynnwys llawer o ddŵr, dawnsio a setiau diddorol; mi oedd yn sioe hyfryd. Y sioe nesaf oedd Le Dernier Panache: mi oedd y sioe yma yn wych achos mi oedd y llwyfan a’r seddi yn symud, gan rhoi effaith anghredadwy i wylwyr, fel petai ni yn symud. Yn olaf oedd y sioe gwych terfynol: Le Signe du Triomphe. Cafodd ei leoli mewn colosewm ffig â oedd yn anferthol, lle welsom nifer o anifeiliaid gwahanol a rhyfel rhwng timau gwahanol. Ar ôl diwrnod hyfryd yn Puy Du Fou, aethom nôl i’r tŷ i baratoi am barti penblwydd Nia Davies yn y tŷ. Cafon ni bitsa a chacen, a chwaraeon ni gemau hwyl. Unwaith eto, mi oedd angen mynd i’r gwely’n gynnar er mwyn cael digon o egni am yfory!
Today was the most exciting day so far, when we went to Puy Du Fou. After arriving at school and walking to the bus, we drove there and discovered exactly what this ‘Theme Park’ is. The site was enormous, and they re-enacted ehistoric events in France. We went to see the first show: Le Bal des Oiseaux Fantômes. It was amazing to see how the birds had been trained so well and could react to such complicated things for animals. Then, we went to see Les Vikings: the special effects were unbelievable, including fake fire, heat, water and animals. Unfortunately, it started to rain so we had to wear the Puy Du Fou ponchos from the teachers, but on the bright side it gave a great effect to the show, thirdly was the Mousquetaire du Richelieu, which included lots of water, dancing and interesting sets; it was a lovely show. The next show was Le Dernier Panache: it was great show, in my opinion, because the seats and stage moved, which gave an incredible effect for watchers, as if we were moving! Lastly was the grand finale: Le Signe du Triomphe. It was located in a dake colosseum which was huge, where we saw a variety of different animals and a war between different teams. After a lovely day at Puy Du Fou, we went back to the house to prepare for Nia Davies’ birthday party in the house. We had pizza and cake, and we played fun games. Once again, we had to go to bed early in able to have enough energy for tomorrow!
Aujourd’hui était passionnant! Nous sommes allé Puy Du Fou, et j’ai regardé spectacle historique. Le Bal des Osieaux Fantômes; Le Les Vikings; Mousquetaire de Richelieu; Le Dernier Panache; et Le Signe du Triomphe est magnifique. Aujourd’hui, il pleuvait. Aprés Puy Du Fou, nous sommes allé à la maison, et j’ai preparé pour la fêter. Était tres amusant à mon avis, et trouve Puy Du Fou fantastique et tres interessent!
Falch iawn dy fod wedi joio yn Puy du Fou!
ReplyDelete